R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gofal iechyd sy’n cael ei ddarparu yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1052(FM)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd cyffuriau priodol ar gyfer afiechydon prin?OAQ(4)1049(FM)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys? OAQ(4)1057(FM)
4. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar ynni gwynt? OAQ(4)1053(FM)W
5.
Lynne Neagle (Torfaen):Sut
y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl yn Nhorfaen i gymryd rhan
mewn chwaraeon? OAQ(4)1061(FM)
6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr uned gyflawni dros y chwe mis diwethaf?OAQ(4)1063(FM)
7. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru?OAQ(4)1055(FM)
8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1065(FM)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynlluniau arfaethedig i ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd ledled de Cymru, sef Rhaglen De Cymru? OAQ(4)1051(FM)
10. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru? OAQ(4)1060(FM)
11. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i adfywio’r iaith Gymraeg?OAQ(4)1067(FM)W
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd meddwl sy’n cael ei ddarparu yng ngogledd Cymru?OAQ(4)1059(FM)
13. Sandy Mewies (Delyn):A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu goblygiadau posibl trafod cytundeb masnach rydd rhwng UDA a’r Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(4)1056(FM)
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)1058(FM)
15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaeth sgrinio ar gyfer retinopathi diabetig? OAQ(4)1050(FM)